Rhybuddio yn erbyn gor-ganmoliaeth gan Estyn, y corff sy’n arolygu addysg, wna’r Cynghorydd Rhys Tudur. Mae angen i’r corff fod â disgwyliadau uwch o ran yr iaith mewn siroedd fel Gwynedd a Môn, wrth i nifer y disgyblion sy’n astudio drwy’r Gymraeg ostwng.


Yn ddiweddar, cyhoeddodd Estyn eu harolygiad o Adran Addysg Cyngor Gwynedd, gan roi sylw i’r Canolfannau Trochi a’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Roedd yr adroddiad yn frith o ddatganiadau canmoliaethus tra arwynebol, a’r rheini heb eu cyfiawnhau. Er yn derbyn nad yw sylwadau ysgubol arwynebol yn ddieithr i Estyn ar adeg pan nad oes rheidrwydd arnyn nhw i gyhoeddi data, o ddarllen eu hadroddiad ar Wynedd, fedrwn i ddim peidio â meddwl nad ydyn nhw’n ddigon treiddgar wrth arolygu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Yn eu hadroddiad, nododd Estyn yn feirniadol nad yw Cyngor Gwynedd yn monitro data “yn ddigon fforensig”. O ran arolygu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, credaf nad yw arolygwyr Estyn eu hunain yn dadansoddi nac yn monitro yn ‘ddigon fforensig’. Trwy’r adroddiad, mae brolio Gwynedd ar sail yr adnoddau a’r deunydd crai sydd wedi bodoli yng Ngwynedd ers tro byd; canolfannau trochi “arbenigol”, nifer uchel o athrawon sy’n siarad Cymraeg, a nifer uchel o blant o aelwydydd Cymraeg.

Yn ôl Estyn:

“O dan arweiniad pwrpasol arweinwyr newydd, mae’r gwasanaeth yn cynnig darpariaeth fuddiol i ddisgyblion cynradd ac uwchradd mewn chwe lleoliad ar draws yr awdurdod. Mae’r cwrs dwys deg wythnos yn cefnogi disgyblion i gaffael ar fedrau ieithyddol buddiol sy’n eu galluogi i ymuno â’u cyfoedion yn eu hysgolion lleol ac i ddefnyddio’r iaith yn ffurfiol ac anffurfiol o fewn eu cymunedau.”

Mae’n wir fod Canolfannau Trochi wedi bod yng Ngwynedd ers yr 1980au ac wedi wynebu toriadau ariannol. Mater o bryder yw bod cwtogiad yn y cyfnod y caiff plant eu trochi. Maen nhw’n cael eu trochi am bedwar diwrnod yr wythnos yn hytrach nag am wythnos lawn. Er hynny, nid yw effaith ieithyddol y cwtogiad hwn wedi’i drin a’i drafod gan Estyn, nac ychwaith effaith y cwtogi ar nifer yr athrawon caffael iaith ym mhob canolfan.

O ran cyfrwng iaith y plant, dyma sylwadau cyffredinol ac amwys Estyn ar y ddarpariaeth yng Ngwynedd:

“Mae ysgolion yn darparu llawer o bynciau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae llawer iawn o ddisgyblion yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg iaith gyntaf. Mae hyn yn adlewyrchu gweledigaeth a pholisi’r awdurdod i ddatblygu disgyblion sy’n gwbl ddwyieithog a hybu manteision astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Y realiti poenus yng Ngwynedd yw fod cwymp brawychus wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau TGAU trwy’r Gymraeg, ac na chafodd targedau blynyddol eu Cynllun Strategol Addysg diwethaf eu gwireddu. Yn hytrach na chynnydd dros gyfnod o bum mlynedd, bu gostyngiad. Bu lleihad yng nghanran y plant astudiodd dros hanner eu pynciau TGAU trwy’r Gymraeg rhwng 2017 a 2022. Mae’n rhyfeddol nad oes sylw am hyn gan Estyn. O ganlyniad, mae rhywun yn rhwym o feddwl fod gan Estyn duedd diarwybod, anymwybodol wrth fynd o gylch ysgolion Cymru i feddwl bod y ddarpariaeth Gymraeg yng Ngwynedd yn ddi-fai. Yn amlwg, mae’r Gymraeg yn amlycach yng Ngwynedd nag yng Nglyn Ebwy, mae ganddi fwy o adnoddau o ran y Gymraeg, mae ganddi ganran uwch o siaradwyr, ond ni ddylid brolio’r sir ar sail hynny.

Dylid cael disgwyliadau uwch ar gyfer monitro ac arolygu’r ddarpariaeth Gymraeg yng nghadarnleoedd yr iaith. Truenus oedd arolygiad diweddaraf Estyn ar Sir Fôn. Cafwyd canmoliaeth i’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a hynny pan fo ond 34.8% o’r plant – ym Môn o bob man – yn gwneud trwch eu haddysg trwy’r Gymraeg. Heb ddisgwyliadau uwch a gwerthusiad ‘fforensig’ craff a chywir o’r ddarpariaeth Gymraeg, mae perygl i Adroddiadau Estyn roi gwarant i awdurdod fel Cyngor Gwynedd a Môn fod yn hunangyfiawn a defnyddio geirda Estyn fel amddiffynfa rhag unrhyw werthusiad neu her ar sail data. Rhaid i adroddiadau Estyn fod yn fwy ‘fforensig’ wrth edrych ar y Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg. Rhaid rhoi sylw neilltuol i ddata. Heb hynny, gallwn fod yn colli iaith yn y sir wrth i Estyn or-ganmol tra bo dirywiad yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg.

Ni all y Gymraeg oroesi mewn sefyllfa le ceid canmoliaeth tra’n colli’r dydd, le ceid brolio tra bo’r Gymraeg yn breuo.