Darlunio’r ymennydd i helpu ei fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau meddygaeth a niwroseicoleg ym Mhrifysgol Bangor oedd profiad artistig yr Athro Oliver Turnbull, cyn Covid.

Ond wrth iddo fynd ati i ddysgu Cymraeg yn ystod y pandemig fe ddechreuodd greu darluniau i’w helpu i ddysgu’r gwahaniaeth rhwng geiriau sy’n swnio’n debyg i’w gilydd.