Yn ystod yr wythnos y bu farw’r disg-joci enwog, Steve Wright, mae hi’n addas trin a thrafod un o’n rhaglenni radio mwyaf poblogaidd ni yma yng Nghymru, rhaglen Tudur Owen. Wright, yn nhyb llawer, yw tad y fformat ‘radio sŵ’, un o’r cyntaf i fabwysiadu’r arddull hwnnw ar ynysoedd Prydain yn sicr. Hynny yw, yr arddull o sgwrsio’n anffurfiol yn y stiwdio gyda chyd gyflwynwyr neu hyd yn oed gynhyrchwyr. Mae’n anodd dychmygu rhaglenni radio heb hynny erbyn heddiw wrth gwrs ond nid f