Siawns fod pawb yn gwybod fod Lleuwen yn athrylith ond mae ei sioe/ perfformiad/digwyddiad diweddaraf, ‘Emynau Coll y Werin’, yn mynd â ni i lefel arall. Ydi, mae’r llais hyfryd gwerinol, llawn enaid, Soulful yn dal yna ond mae’r daith ddiweddar yn trawsnewid y syniad o ‘gig’. Mwy o ddigwyddiad! Capeli ydi’r lleoliadau ar gyfer y daith.