Mi wnes i gymryd rhan mewn galwad Zoom gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru dros flwyddyn yn ôl. Roedd y cyfarfod gydag aelodau’r Wasg pêl-droed Cymru yn rhan o ymchwil i Uwch Gynghrair Cymru – y Cymru Premier. Wnes i ddim meddwl lot am hyn ar y pryd, ond mae’n debyg bod mwy na geiriau tu ôl i addewidion y Prif Weithredwr, Noel Mooney.