Wnes i ddim prynu blodau iddi ar Ddiwrnod Santes Dwynwen. Ei syniad hi oedd i ni beidio trafferthu. Wnawn ni beido gwastraffu’n arian ar nonsens fel ’na. Fi’n gwybod bo’ ti’n fy ngharu i! Dwi’n cofio iddi wenu arna i, y wên lydan, glên oedd yn newid ei hwyneb yn llwyr – gwên oedd rhywsut yn f’atgoffa i o’r haf, hyd yn oed ym mwrllwch mis Chwefror. Cytuno wnes i, ac fe gawsom ni flynyddoedd o ryw edrych i lawr yn llawn tosturi hunangyfiawn ar y rhai oedd yn cyfnewid cardiau a blodau a dy