Mae’n anodd peidio â digalonni. Wrth i etholiad cyffredinol nesu, mae yna beryg mawr mai ‘does dim pwynt’ fydd yr agwedd amlyca’.

Yn Lloegr, y wlad fydd yn penderfynu ein tynged ninnau, mae’n anodd gweld pam y dylai pobol deimlo’n frwd o gwbl, efo’r ddwy brif blaid fel petaen nhw’n setlo ar yr un tir, yn enwedig ar ôl cyhoeddiad ‘dim buddsoddi’ Keir Starmer yr wythnos ddiwetha’.