Rwy’n colli fy mam.

Yn ara deg bach.

Mae ganddi vascular dementia, meddai’r meddyg. Diagnosis sydd arni wedi iddi hi, a gweddill y teulu, sylwi ei bod yn mynd yn anghofus.

Mae’n syndod o beth, gan ei bod mor gryf fel arall. Mae’n 94 ond yn cerdded heb ffon. Gall blygu’n ei hanner i godi pluen o’r llawr. Gall ddringo ar ben cadair er mwyn estyn cwpan o ben cwpwrdd. Mae’n gweld yn well na fi.

Mae’n hoffi bod yn brysur. Nid yw’n un i eistedd o flaen y teledu drwy’r dydd.