Mae o wedi mynd yn ormod.

Rydw i’n byw ar ddeiet dyddiol o ddelweddau o ryfel. Yn mynd â fy ffôn efo fi i lecynnau mwyaf preifat fy nghartref – y bath, y tŷ bach, y gwely – ac yn gwylio’r gyflafan. Mae yna fideos o gyrff meirwon yn cael eu tynnu o rwbel, a phlant bach wedi eu hamddifadu o rieni a chartref a gobaith, a hen bobol, wedi colli popeth.

Share. Share. Share.