Flwyddyn a hanner wedi iddi gael ei lluchio allan o swydd y Prif Weinidog yn y ffordd fwyaf cywilyddus bosib, mae Liz Truss dal o gwmpas ar y sîn wleidyddol, a dal yn fywiog iawn. Mae hi’n parhau i fod yn eitha’ ffefryn ymhlith rhannau o’r blaid Geidwadol, a gyda sail denau o gefnogwyr triw ymhlith yr Aelodau Seneddol. Wnaiff hon ddim ildio i amherthnasedd haeddiannol, ac fe welwyd hynny’n glir mewn cynhadledd a gynhaliwyd wythnos diwethaf, sef PopCon, neu Popular Conservatives