Roedd hi’n Super Bowl dros y Sul. O bosib, y ‘digwyddiad’ chwaraeon mwyaf ar y blaned. Ydi, mae rownd derfynol Cwpan Pêl-droed y Byd yn fawr, y Gemau Olympaidd yn achlysur o bwys hefyd wrth gwrs. Ond fel un digwyddiad adloniant, yr ornest ar y maes a phopeth sydd yn dod i’w chanlyn, go brin fod cymhariaeth.