Mae gan y band sga-ffync Anweledig gân wych sy’n annog y gwrandäwr: ‘Os ydach chi eisio gwneud graffiti… gwnewch Graffiti Cymraeg!’

Ac mae rhywun wedi bod yn gwrando, canys y mae teitl un o ganeuon Datblygu ar bont goncrit ger yr hen ffatri partiau ceir ar gyrion Caernarfon.

Roedd ‘Cyn Symud i Ddim’ yn drac ar gasgliad feinyl aml-gyfranog o’r enw Gadael yr Ugeinfed Ganrif a welodd olau dydd yn 1985 ar Recordiau Anhrefn.

Llun: Alun Cob