Mae cwpwl yn y gogledd sy’n creu pitsas unigryw gydag enwau Cymraeg fel Gafr Melys, Gafr Gwyrdd ac Eryri…

Barbeciw mewn gardd gefn oedd y sbardun ar gyfer creu un o gwmnïau pitsas gorau’r gogledd, sydd newydd ymgartrefu mewn hen fanc ar ôl blynyddoedd yn gwerthu bwyd ar y lôn.

Ers 2012, mae Jones’ Pizza wedi bod yn creu pitsas fel y rhai yn Napoli a’u gwerthu nhw mewn faniau ffynci ledled y gogledd.