Mae Cadeirydd newydd Urdd Gobaith Cymru yn fam i dri sydd wedi treulio cyfnod yn gweithio yn y Senedd Ewropeaidd ym mhrifddinas Gwlad Belg, ac ar dân dros roi cyfleoedd i bawb o bob cefndir gyda mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop.

Am bum mlynedd roedd Nia Bennett yn gwneud ymchwil i Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru erbyn hyn ac un a arferai fod yn Aelod o’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel.