Gyda rhyw fis i fynd nes i ni gael Prif Weinidog anetholedig newydd, mae yna lif o bolisïau a strategaethau a blaenoriaethau wrthi’n dod o du’r ddau ymgeisydd. Mae’n ddifyr gen i mai hon ydi’r ymgyrch futraf a chwerwaf erioed i’r blaid Lafur yng Nghymru – nid lleiaf oherwydd saga Vaughan Gething ac Uno’r Undeb [pan ddaeth i’r amlwg fod Jeremy Miles yn “anghymwys” i dderbyn cefnogaeth yr undeb, a hynny yn sgil rheol newydd ddaeth i’r fei]  – a hynny’n gyhoeddus. Hoffai rai feddwl bod y rhwygiadau