Rhywbeth sydd yn cael ei drafod weithiau yn ystod teithiau cerdded neu wrth ddarlithio gyda gwahanol gymdeithasau yw beth yn union ddylid ei wneud o ran hyrwyddo neu ddod a ‘mwy’ o sylw i rai safleoedd. Enghraifft dda i chi yw Castell y Bere. Rŵan, dyma chi un o gestyll tywysogion Gwynedd yn Nyffryn Dysynni (Abergynolwyn / Tywyn / de Sir Feirionydd). Map O.S. ddigon hawdd i’w ganfod.