Drwy ddrws y gegin, rydw i’n gwylio Roy yn gwylio’r newyddion. Mae’r dyddiau’n dal i deimlo’n aeafol a’r tywyllwch yn mynnu ei le yn ein cartref ni o ganol y prynhawn, a tydy Roy heb gynnau’r golau eto. Yr unig olau ydi’r adlewyrchiad o liwiau bywiog sgrin y teledu.