Rwy’n dyfalu bod 50% o ddarllenwyr Golwg wedi bod i Prague.

Mae’n ddinas sy’n hawdd i’w chyrraedd – £90 oedd fy hediad o Fryste, yno ac yn ôl.

Mae nifer o resymau dros fynd yno. Megis mynd i fwynhau stag neu hen gyda’ch ffrindiau ifanc ffôl. Neu fynd â’r teulu am dro. Neu am benwythnos rhamantus gyda’ch cymar. Neu i fwynhau hanes a diwylliant y ddinas ryfeddol o dlws yn y Weriniaeth Tsiec.