Cefais freuddwyd gylchol nos Sul, breuddwyd sy’n dychwelyd imi o bryd i’w gilydd. Yr un hunllef ydyw o hyd: buodd camgymeriad a rhaid imi ddychwelyd i’r coleg er mwyn ail-eistedd fy arholiadau!

Sefais fy arholiad olaf yn y Gyfraith yn y brifysgol ym Mryste ddeng mlynedd yn ôl. Er i mi raddio’n llwyddiannus, rydw i o hyd yn cael hunllefau am arholiadau sy’n awgrymu nad oedd fy mhrofiad o golegau (Aberystwyth a Bryste) yn fêl i gyd.