Mae’r ddadl iaith yma yn rhygnu ymlaen yn tydi. Neu’r drafodaeth iaith y dylwn i’w ddweud efallai. Hynny yw, y drafodaeth am y defnydd o Saesneg ar S4C. Ac mae trafodaeth yn beth iach. Wedi’r cwbl, mae o’n rhywbeth yr ydym ni’r Cymry yn dda iawn am ei wneud, trafod!

Dyna pam fod rhaglenni fel Pawb a’i Farn a Hawl i Holi mor boblogaidd siŵr o fod, y ddwy wedi’u hanfarwoli’n wreiddiol gan y chwedlonol Dewi Llwyd, y naill ar y teledu a’r llall ar y radio. Rhaid cyfaddef nad ydw i’n cael yr un blas ar Pawb a’i Farn ers iddo roi’r gorau iddi, ond mae Hawl i Holi yn mynd o nerth i nerth o dan ofal medrus Bethan Rhys Roberts.

Daeth y bennod ddiweddaraf yn fyw o’r Egin yng Nghaerfyrddin. Canolfan S4C wrth gwrs felly doedd fawr o syndod clywed peth trafod ar sefyllfa’r sianel. Ond cyn cyrraedd hynny, daeth dyfyniad mwyaf trawiadol y noson pan alwodd Guto Harri fwyafrif etholwyr Cymru yn dwp am bleidleisio am Brexit! Ia, yr un Guto Harri a fu’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu i’r arch-Frexitiwr, Boris Johnson.

Ta waeth, y sylwadau arall a ddenodd sylw yn ystod y rhaglen oedd rhai Angharad Mair pan ddywedodd hi: “Dw i yn meddwl fod S4C, yn ystod y cwpl o flynyddoedd diwethaf, wedi colli cyfeiriad… sefydlwyd S4C i wasanaethu siaradwyr Cymraeg, dyna oedd ei phwrpas hi a dyna dw i’n meddwl y dylse ei phwrpas hi fod heddiw.”

Ac yn yr un modd yr oedd hi’n dipyn o syndod clywed Guto Harri yn lladd ar bleidleiswyr Brexit, efallai ei bod hi’n fymryn o syndod clywed cadeirydd un o brif gwmnïau cynhyrchu Cymru, Tinopolis, yn rhoi ei barn mor onest yn gyhoeddus ar sefyllfa ein sianel genedlaethol. Ond da iawn hi ddyweda’ i, mae’r pwysigion, wedi’r cwbl, yn fwy tebygol o gymryd sylw pan fydd rhywun fel hi’n siarad.

Mae hi’n drafodaeth a gododd ei phen eto’n ddiweddar yn sgil y defnydd o Saesneg yn y gyfres ddrama garchar, Bariau. Fe gawsom ni drafodaeth ddifyr iawn amdani ar bodlediad Ar y Soffa yn ddiweddar.

Mae Bariau yn enghraifft berffaith o ba mor gymhleth yw’r pwnc hwn. Mae drama fel hon yn gwbl ddibynnol ar ei gallu i greu byd y gall y gwylwyr gredu ynddo fo. Ac i mi pryn bynnag, mae’r ddadl greadigol dros gynnwys Saesneg mewn sefyllfaoedd fel hyn yn un sydd yn gallu darbwyllo. Ac i’r rhan fwyaf o gyfresi ar y rhan fwyaf o sianeli, y ddadl greadigol honno yw’r unig ystyriaeth. Dw i’n gwylio cyfres Griselda ar Netflix ar hyn o bryd, drama wedi ei lleoli yn Miami ond ychydig iawn o Saesneg sydd ynddi. Ac mae hynny’n iawn, mae’n naturiol, wnes i ddim meddwl dwywaith am y peth.

Ac a dweud y gwir, prin wnes i sylwi ar y Saesneg yn Bariau ar ôl ychydig hefyd. A dw i’n sylweddoli fod hynny’n fy ngwneud i’n dipyn o ragrithiwr, achos dw i wedi bod yn ddigon bodlon cwyno am Saesneg ar raglenni eraill. Ond dyna’r pwynt dw i’n meddwl, os ydych chi’n edrych arni o safbwynt creadigol yn unig, fe gewch chi ateb gwahanol bob tro.

Ond mae yna gwestiynau gwahanol yn codi pan fydd sianel deledu yn fwy na dim ond sianel deledu yn does. Os oes gan sianel deledu bwrpas neu ddyletswydd benodol, dydi pethau ddim cweit mor syml wedyn. Dyna pam dw i’n meddwl fod Angharad Mair yn llygad ei lle wrth ddefnyddio’r geiriau “colli cyfeiriad”.

Nid yw S4C wedi mynd yn sianel wael dros nos, mae yna ddigon o gynnyrch o safon uchel iawn. Ond, nid yw’n berffaith glir i mi beth yw cenadwri’r sianel bellach ac un o’r pethau pwysicaf dw i’n meddwl y gall unrhyw gyfundrefn newydd ei wneud yn yr Egin dros y flwyddyn nesaf yw ail ddiffinio, a hynny’n glir, beth yn union yw ethos y sianel.