Os ydi Mark Drakeford eisiau gwneud un peth pwysig arall cyn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog, y peth hwnnw ydi sicrhau newid yn y cynlluniau ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.

Er gwaetha’ rhybuddion ers misoedd, mae’r mesur i newid y drefn wedi mynd trwy ei gam cynta’ yn y Bae. Diolch byth, mae’r egwyddor o gael 96 aelod wedi’i gytuno ond, os yden ni am osgoi trychineb democrataidd, mi fydd rhaid newid y manylion.