Cafwyd dyfarniad gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol a wnaeth, er nad yn uniongyrchol, i bob pwrpas gyhuddo Israel o hil-laddiad yn Llain Gaza. Ymateb Israel, sydd bellach o dan lawer mwy o bwysau, oedd bod y dyfarniad yn wrth-Semitaidd, cyhuddiad y mae’r wladwriaeth honno’n ei defnyddio’n rheolaidd i’w hatal rhag beirniadaeth y byd.