Tydi hi ddim yn meddwl rhyw lawer am dro’r blynyddoedd. Dim, o leiaf, ar adeg nos Galan, sy’n ddim byd ond dyddiad arall iddi hi bellach. Fe gafodd ei blynyddoedd o win pefriog am hanner nos, allan efo’i ffrindiau mewn dillad haf a hithau’n aeaf, ei llais yn gân o fedd-dod wrth iddi adrodd yr addunedau roedd hi’n gwybod ei bod am eu torri o fewn wythnosau. Dwi am ’neud Couch-2-5k, a stopio byta rybish, a dwi am deletio social media fi a dwi am dynnu meic-yp fi off bob nos. Mae’r fersiwn