Dw i’n ysgrifennu’r golofn hon ym Marbados. Dwi wedi treulio’r dyddiau diwethaf yn ymweld â theulu ar yr ynys yn nwyrain y Caribî a gwneud ymchwil ar gyfer fy nghyfrol nesaf, Paradwys Goll.

Barbados yw mamwlad fy nhad-cu a dyma ydy’r trydydd tro imi ymweld â hi.

Mae’r ynys yn fach – fe allwch chi gylchu Barbados yn y car mewn rhyw bedair awr. Er hynny, o ran diwylliant, hanes a natur, mae gan y wlad gyfoeth o bethau i’w gwneud a’u darganfod.