Weithiau mae yna ‘fanteision’ o fod yn Rhys Mwyn.

Rwyf yn teithio i Abertawe i gyfarfod Catrin (Saran) James awdur ‘Abertawe Fodernaidd’. Mwy am hyn mewn eiliad. Ar fy ffordd i lawr, tra’n cael cinio yng nghaffi hyfryd Diod yn Llandeilo, dyma ping ar y ffôn symudol. Huw (cyn-ganwr y Pooh Sticks) a bellach canwr y band Swansea Sound sydd yn gofyn a oeddwn i yn Abertawe?