Mae’r daith o’r Barri i’r Felinheli yn un hir. Rydw i’n siwr pan wnaeth tîm y menywod o Fro Morgannwg ddeall y bydde yn rhaid iddyn nhw deithio i Wynedd ar gyfer gêm gwpan, doedden nhw ddim yn rhy hapus. Ond roeddwn i’n edrych ymlaen i’r gêm oedd fod i gael ei chwarae’r wythnos ddiwethaf. Mi fyse yn brawf da i’n tîm pentref yn erbyn clwb o Uwch Gynghrair Menywod Cymru, sef yr Adran Premier.