Pegwn y Gogledd

 

Annwyl Sam,

Mae ysgrifennu atat yn teimlo ychydig yn wahanol eleni. Fe wyddost ti ein trefn ni – Dy fod ti’n danfon llythyr i mi tua canol Tachwedd i ddiolch i mi am anrhegion y llynedd, ac i awgrymu ambell beth ar gyfer eleni; Wedyn, mi fydda i’n d’ateb di yn diolch am dy lythyr ac yn gaddo y bydda i’n gwneud fy ngorau gyda’r presantau, ac yn d’atgoffa di i adael mins pei allan i mi ar noswyl Nadolig, a moronen i’r ceirw hefyd.