Does dim dwywaith fod gan Heddlu Dyfed-Powys foi difyr wrth y llyw sydd ddim ofn dweud ei ddweud.

Mae Richard Lewis yn Brif Gwnstabl sy’n falch iawn o’i Gymreictod ac mae S4C wedi ei fachu ar gyfer cyfres deledu – fe gewch adolygiad ohoni ar dudalen 13 gan Gwilym Dwyfor.

Ac wrth gael ei holi ynghylch y rhaglen, mae Richard wedi codi sawl sgwarnog.