Yn ôl adroddiadau, Elfyn Llwyd gipiodd y mwyafrif helaeth o’r pleidleisiau, er mai Carmen Smith ymddangosodd ar frig y rhestr wedi’r canlyniadau…

Mae cwestiynau wedi eu codi ynghylch canlyniadau etholiad mewnol Plaid Cymru wedi i Carmen Smith ddod ar frig y rhestr i olynu Dafydd Wigley yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Daw hyn wedi i’r newyddiadurwr Martin Shipton dderbyn gwybodaeth a oedd yn awgrymu mai Elfyn Llwyd ddaeth yn fuddugol yn yr etholiad gyda dros 60% o’r bleidlais.

Yr awgrym yw bod y rhestr derfynol wedi ei seilio ar benderfyniad gan bwyllgor Plaid Cymru mai dynes ddylai gael ei gosod ar frig y rhestr.

Mae Carmen Smith, sy’n 27 oed, yn gweithio i’r cwmni ynni dadleuol Bute Energy ac yn ôl adroddiadau derbyniodd hi tua 70 pleidlais.

Fodd bynnag, yn ôl y sôn bu i Elfyn Llwyd ddenu 180 o bleidleisiau a hynny go debyg oherwydd bod gan y bargyfreithiwr 72 mlwydd oed brofiadau helaeth yn y byd cyfreithiol.

Daeth Ann Griffith, sydd yn gyn-Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru ac yn ymgynghorydd gofal cymdeithasol, yn drydydd ar y rhestr gydag oddeutu 40 pleidlais.

 

“Ffraeo mewnol” a “diffyg rhesymeg”

Un o’r prif gwestiynau sydd wedi ei godi gan un o golofnwyr gwefan golwg360, Huw Prys Jones, yw pam bod Plaid Cymru wedi arwain aelodau i gredu y byddai eu pleidlais yn cyfrif yn y lle cyntaf os nad dyna oedd yr achos.

“Yr esboniad tebycaf ydi bod ffraeo mewnol o fewn y blaid yn arwain at ddiffyg rhesymeg ac at benderfyniadau nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn ddigon trylwyr,” meddai yn ei golofn.

“Os oedd unrhyw rai a oedd yn ymwneud â threfniadau’r etholiad yn credu bod modd cadw’r canlyniad yn gyfrinachol, y cwbl y gellir ei ddweud ydi eu bod nhw’n anhygoel o naïf.”

Mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi dweud na allan nhw gyhoeddi ffigyrau pleidleisio ar gyfer etholiadau mewnol.

Ond yn ôl adroddiadau, mae aelod sy’n uchel o fewn y blaid wedi dweud bod y sefyllfa’n “warthus”.

“Dydw i ddim yn gwybod gwir ganlyniad y bleidlais ond byddwn wedi meddwl bod Elfyn ymhell ar y blaen,” meddai’r ffynhonnell wrth Nation.Cymru.

“Ni chafodd y ffaith bod y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol wedi gosod menyw ar ben y rhestr ei hesbonio ar unrhyw adeg yn y cyflwyniad i’r hystings rhithiol y bûm ynddynt yr wythnos diwethaf.”

 

Colli pump allan o chwe phleidlais?

Mae’r honiadau hefyd yn codi pryderon pellach yn sgil y rhestrau caeedig bydd yn cael eu defnyddio yn y Senedd ddiwygiedig.

Yn ôl y drefn sydd wedi ei hamlinellu yn Bil Senedd Cymru, pleidiau fydd yn gyfrifol am ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli nhw mewn etholiadau, nid pleidleiswyr.

Mae gwleidyddion ac ysgolheigion, gan gynnwys yr Arglwydd Dafydd Wigley, eisoes wedi mynegi eu pryderon bod hyn yn peri risg i ddemocratiaeth ac yn tynnu’r dewis oddi wrth y cyhoedd.

Mae Huw Prys Jones hefyd wedi ei ddisgrifio fel mesur “dirmygus a thrahaus tuag at etholwyr.”

“Un o hanfodion democratiaeth ydi un aelod, un bleidlais,” meddai.

“O dan y drefn hon, dim ond un bleidlais fydden ni’n ei chael ar gyfer chwe aelod.

“Sy’n gyfystyr yn yr achos hwn â’n hamddifadu o bump allan o’r chwe phleidlais y dylem ei chael!”

 

“Hybu cynrychiolaeth merched”

Mae Plaid Cymru wedi dweud mai “cam i hybu cynrychiolaeth merched” oedd wrth wraidd eu penderfyniad i osod Carmen Smith ar frig y rhestr i olynu Dafydd Wigley yn Nhŷ’r Arglwyddi.

“Rydym yn falch bod Golwg wedi penderfynu rhoi sylw i drefniadau Plaid Cymru i enwebu cynrychiolwyr i fod yn llais i Gymru yn ail siambr San Steffan, ac am roi gwahoddiad wedyn i ni egluro sut oedd y broses yn gweithio mewn gwirionedd, a pham. Mae’r ‘pam’ yn ddigon syml – cam i hybu cynrychiolaeth merched, rhywbeth rydyn ni’n falch ohono fel Plaid,” meddai llefarydd.

“Ac roedd y drefn ei hun yn un yr oedd yr ymgeiswyr i gyd yn ymwybodol ohoni wrth gwrs, a chyfathrebwyd hynny yn yr hystings. A gan nad un enwebai yn unig ddylai gael ei chynnig i Blaid Cymru, nid mater o ‘un enillydd’ yw hyn, ond trefn enwebeion. Plaid Cymru yn cynnig proses fodern ydy hyn ar gyfer siambr sydd angen ei diweddaru yn ddybryd.”