Rydw i’n gorffen y flwyddyn nôl yn Llundain, ar ôl tri mis o fyw rhwng Abertawe, Rio de Janeiro, San Diego, San Francisco ac wythnos diwethaf… Caerdydd! Am dymor fu’r hydref.

Teimlaf yn freintiedig iawn fy mod i wedi cael y cyfle i gysylltu gydag artistiaid ledled y blaned, a rhannu gwaith mewn cyd-destunau newydd a gwahanol iawn i’r rhai y cafodd y gwaith ei ddatblygu ynddo.