Mae hi wedi bod yn flwyddyn fawr i’r dramodydd Daf James, a nawr mae newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf…

Ers mis Ionawr 2023, mae Daf James wedi bod yn gweithio ar ei gyfres newydd sbon i’r BBC, Lost Boys and Fairies, stori am gwpwl hoyw sy’n mabwysiadu plentyn.

Bydd y gyfres ddrama honno – sy’n “broject bywyd” i’r dramodydd a gafodd ei fagu yn y Bont-faen – yn cael ei darlledu ar rwydwaith y BBC drwy Brydain yn 2024. Ni fydd yn addas i blant, ac yn cael ei dangos ar deledu ar ôl naw y nos. Mae’r awdur felly yn hynod falch ei fod wedi gallu cyhoeddi nofel i blant y Nadolig hwn, un y mae’n gallu ei darllen gyda’i blant ei hun.

Mae Jac a’r Angel wedi ei hanelu at rai rhwng 9 a 13 oed, ac mae ynddi ddarluniau gan yr artist Bethan Mai, sydd hefyd yn gyfrifol am y clawr. Yn wreiddiol, syniad am ffilm gafodd yr awdur, gan fod arno awydd ysbrydoli plant Cymru fel y cafodd yntau ei ysbrydoli gan ffilm eiconig Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn o’r 1980au, Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig.

Yn y stori, mae Jac yn byw gyda’i Dad-cu mewn pentref o’r enw Bethlehem, a’r ddau yn ymbalfalu yn eu galar ers i fam Jac farw’r Nadolig blaenorol. Un diwrnod mae Jac yn dod o hyd i hen galendr Adfent ei fam, ac mae angel yn ymddangos allan o’r drws bach cyntaf, ac yn cynnig dymuniad iddo. Ei unig ddymuniad yw cael chwarae rhan Mair yn nrama geni’r ysgol, ‘achos mae pawb yn gwybod taw Mair sydd â’r caneuon gorau’.

“Yn wreiddiol ro’n i wedi bod yn trio meddwl am ffilm – ro’n i’n moyn sgrifennu ffilm a fyddai falle yn apelio at blant Cymru mewn ffordd y gwnaeth Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig apelio ata i pan oeddwn i’n blentyn,” meddai Daf James. “Roedd y ffilm yn ddylanwad mawr, mawr arna i fel artist.

“Roedd rhywbeth mor hudolus am y stori pan oeddwn i’n blentyn. Ro’n i moyn sgrifennu stori a fyddai’n gwneud yr un peth ond efallai hefyd yn cynrychioli rhywbeth nad oedd ar gael pan oeddwn i’n fachgen bach, ac efallai yn adlewyrchu fy mhrofiad i.”

Yn yr ysgol feithrin, fe fyddai’n arfer cwympo mas gyda’r plant eraill ynghylch pwy fyddai’n cael gwisgo’r ffrog o’r bocs gwisg ffansi.

“Fe ddaeth y stori am Jac eisie chwarae Mair yn y ffordd yna mas o bwy oeddwn i yn fachgen bach. Roedd fel petawn i’n sgrifennu’r stori i blant Cymru ond hefyd i’r Daf James bach yna oedd yn gwylio’r ffilm yma ac yn gwisgo’r ffrog yn yr ysgol feithrin.”

Dianc i fyd hud

Mae Jac a’r Angel yn nofel ffraeth, ysgafn sydd yn llawn hwyl a hud, ac yn ymdrin yn gynnil â themâu anodd fel galar a bwlio. Fe gollodd yr awdur yntau ei fam tua chwe blynedd yn ôl, ac mae’r profiad wedi bwydo’n anochel i mewn i’w waith creadigol.

“Mae unrhyw un sydd yn adnabod fy ngwaith i yn gwybod fy mod i yn archwilio hynna eitha’ lot – colli rhiant,” meddai’r awdur, sy’n dad i dri o blant, a’r rheiny yn 11, naw a phump oed.

“Yn enwedig pan ydych chi’n dod yn rhiant unwaith eto – ry’ch chi’n cael persbectif hollol wahanol eto arno. Mae galar yn wraidd i’r nofel, ond dyw hi ddim, gobeithio, yn nofel drom oherwydd hynny. Ro’n i moyn dangos sut mae Jac yn defnyddio’i ddychymyg i oresgyn y tywyllwch yna. Dw i’n credu fy mod i eisie cyfathrebu hynna i blant.”

Fe fyddai ef yn dianc i “fyd hudolus” drwy ddarllen a thrwy ei ddychymyg ar adegau anodd pan oedd e’n blentyn. “Trwy ddarllen llyfrau, do’n i ddim yn teimlo’n unig eto, a ro’n i’n gallu mynd i fyd ffantasi mewn ffordd bositif iawn,” meddai. “Dyna mae Jac yn ei wneud.”

Ar hyn o bryd, mae’r awdur wrthi’n darllen Jac a’r Angel i’w blant bob nos. Fel un a oedd yn arfer dwlu ar lyfrau pan oedd e’n iau, ac yn awyddus i’w blant ddeall hud llyfrau yn yr un modd, mae wedi bod yn brofiad amheuthun iddo.

“Dyma’r tro cyntaf i ni i gyd eistedd lawr fel teulu a darllen nofel,” meddai. “Felly dw i wedi cyffroi yn llwyr eu bod nhw’n gwrando ar hyn. Mae hynna’n beth hollol hyfryd.

“Do’n i ddim cweit yn siŵr a fyddai diddordeb gyda nhw yn y stori. Yn y bennod gyntaf, mae gêm bêl-droed yn digwydd. Fyddwn i byth yn sgrifennu am gêm bêl-droed flynyddoedd yn ôl! Ond mae merch gen i sydd yn caru pêl-droed, felly rhoies i’r pêl-droed yn y bennod gyntaf, i weld a fyddai e’n ennyn eu diddordeb nhw, ac mi wnaeth.

“Dw i’n gobeithio fy mod i wedi rhoi digon o elfennau i bawb. Ac maen nhw’n dwlu ar hyd a lledrith, ac antur, a theulu’r Heroniaid – mae rhoi baddies mewn unrhyw stori i blant yn reit bwysig.”

Ac maen nhw ar bennod chwech ar hyn o bryd. “Dw i’n meddwl weithiau bod nhw ddim yn gwrando,” meddai, “ond maen nhw’n gallu adrodd nôl… ac wedyn maen nhw’n gofyn be sy’n digwydd yn y stori yn y bennod nesa. Mae hwnna wedi bod yn hyfryd iawn.

“Os bydda i yn gallu darllen y nofel yma i fy mhlant i, mi fydda i wedi gwireddu breuddwyd.”

Mwynhau nofel

Daeth Daf James i enwogrwydd ar ôl i’w ddrama Llwyth wneud argraff fawr ar y genedl ers i Theatr y Sherman ei llwyfannu ym mis Ebrill 2010. Roedd yn dilyn hynt a helynt criw o ddynion hoyw yn y brifddinas ar noson gêm rygbi rhyngwladol. Fe deithiodd hi’r eilwaith, gan gynnwys i ŵyl Caeredin. Sgrifennodd Daf James ddilyniant iddi, Tylwyth, yn ailymweld â’r bois ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Mae hefyd yn gyfansoddwr ac mae e bellach yn gweithio ym myd radio, teledu a ffilm yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ond cafodd flas mawr ar sgrifennu ei nofel gyntaf a byddai’n codi yn fore iawn, cyn i’r plant ddihuno, i weithio ar Jac a’r Angel.

“Mae’n ddiddorol gyda nofel, i’w chymharu gyda drama,” meddai. “Mewn drama dim ond deialog sy’ gyda chi. Mae gyda chi ddelweddau, ac fel yna rydych chi’n dweud stori ac mae e i gyd yn dibynnu ar is-destun.

“Gyda nofel, mae dewis safbwyntiau gyda chi… Mi wnes i benderfynu sgrifennu yn y trydydd person. Ro’n i moyn bod Jac yn ddiniwed, ac os oedd plant yn darllen y llyfr, ro’n nhw’n gallu uniaethu gyda Jac. Ond os oes oedolion yn ei ddarllen, roedden nhw’n gallu gweld be sydd yn digwydd y tu hwnt i Jac. Bod gyda ni fwy o wybodaeth na’r prif gymeriad. Mae hwnna’n rhan o’r persbectif arall ro’n i’n gallu dod i’r nofel.

“Rhywbeth arall dw i wedi joio ei wneud yn y nofel, na fydden i o reidrwydd yn gallu ei wneud mewn theatr, yw neidio ymlaen i’r dyfodol ambell waith mewn brawddeg fach. Rhoi pwt o ‘dyma sy’n digwydd i’r cymeriad yma yn y dyfodol’. Neu yn y gorffennol. Mi wnes i wir fwynhau hynna wrth gymeriadu.”

“Herio traddodiadau gender”

Mae’r nofel yn gwyrdroi rhai elfennau traddodiadol y Nadolig er mwyn dilyn antur gyfoes a chynhwysol wrth i Jac geisio achub y Nadolig gyda chymorth ei ffrindiau lliwgar: Dilys y Foneddiges Eira, Cefin y Camel sy’n hedfan, pensiynwyr sy’n troi’n geirw, teulu o fugeiliaid, y tair brenhines drag ddoeth, Siôn Corn… a’r angel, wrth gwrs.

“Ro’n i’n moyn gwneud rhywbeth oedd yn stori draddodiadol Nadolig ond yn fwy cwiar, drwy bersbectif gwahanol. A gwyrdroi’r elfennau yna sy’n rhan o’n traddodiadau, a’u hesblygu nhw.

“Roedd y syniad y tri gŵr doeth fel y tair brenhines ddoeth – roedd hwnna’n sgrifennu ei hunan! Yna mae ffrind gore Jac, Sam, yn gweithio ar fferm – mae yna ddafad, mae yna fugeiliaid! Erbyn y diwedd, ro’n i’n moyn iddyn nhw i gyd fod gyda’i gilydd ar lwyfan yr ysgol, yn gwneud stori’r geni. Maen nhw’n ei wneud e ond yn eu ffordd eu hunain, gyda Jac yn chwarae Mair. Ry’n ni’n herio traddodiadau gender sydd wedi bod ers sbel.

“Ry’n ni wedi dod yn bell nawr erbyn hyn, yn enwedig yng Nghymru a’r diwylliant Cymreig, o ran lle roedden i pan sgrifennais i Llwyth yn wreiddiol. Mae mor hyfryd fy mod i’n gallu sgrifennu’r llyfr yma i blant nawr. Mae cymaint o sgwennwyr cwiar yn sgwennu nawr mewn pob math o ffurfiau. Ry’n ni mewn lle gwahanol nawr i le ro’n i.”

A yw’r profiad o sgrifennu nofel am esgor ar un arall yn y dyfodol?

“Mi wnes i fwynhau’n arw. Beth sy’n ddiddorol yw meddwl, cyn theatr, nofelau oedd fy ffordd i i mewn i fyd celfyddydau. Ro’n i’n darllen cymaint… Yn clywed storïau yn cael eu darllen a dechrau darllen, dyna sut gwympes i mewn cariad gyda dweud stori. Fy mhroblem i yw amser, a bywoliaeth, achos mae angen bwydo’r plant yma.

“Ar hyn o bryd, efallai fy mod i’n gwneud bywoliaeth ym myd teledu. O ran sgrifennu yn y Gymraeg – dy’ch chi methu ennill bywoliaeth… Mae e’n gorfod bod yn rhywbeth r’ych chi’n ei wneud ar ben popeth arall. Ond bydden i yn dwlu sgrifennu nofel arall os ffeindia i’r amser i wneud.”

  • Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa £7.99)