Y traddodiad o ddathlu a chroesawu’r flwyddyn newydd yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i albwm newydd cerddor amryddawn o Abertawe… 

Mae Angharad Jenkins yn adnabyddus ar y Sîn fel y ffidlwraig fwyn sy’n aelod o’r grŵp gwerin Calan, ac yn un rhan o ddeuawd werin DnA gyda’i mam, Delyth Jenkins.

Ond yn ddiweddar mae hi wedi rhoi tro ar ganu, a hynny trwy ei phrosiect “alter-ego”, ANGHARAD.

A’i chasgliad newydd, Calennig, yw’r tro cyntaf iddi ryddhau cerddoriaeth fwy traddodiadol ble mae ei llais yn serennu.

Mae’r albwm yn bwrw golwg newydd ar gerddoriaeth draddodiadol y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar hen garolau hardd ac unigryw’r Plygain.

Yn ymuno gydag Angharad ar y piano mae’r athrylith jazz, Huw Warren.

Pan awgrymodd Angharad y syniad o greu albwm cyfan i Huw Warren, llugoer oedd ymateb y pianydd. Ond wrth iddi gyflwyno’r hen garolau iddo, daeth Huw rownd i’r syniad a “chwympodd mewn cariad gyda nhw,” meddai Angharad.

“Mae’r albwm yn gymysgedd o gerddoriaeth o’r Nadolig a’r flwyddyn newydd, ond mae 80% yn hen garolau Plygain.

“Er nad ydw i na Huw yn bobol grefyddol, dw i’n ystyried fy hun yn berson ysbrydol ac mae rhywbeth ysbrydol iawn am y gerddoriaeth.

“Felly wnes i ddewis y carolau ro’n i’n eu hoffi ac yn gyfarwydd gydag o lyfr Sioned Webb ac Arfon Gwilym, Hen Garolau Cymru – fy Meibl –  a’u cyflwyno nhw i Huw.”

Aeth y pâr ymlaen i ailddychmygu’r hen garolau a rhoi eu hud a’u lledrith cerddorol ar waith er mwyn dod â rhywbeth newydd i’r pair, ond gan ofalu i beidio tramgwyddo traddodiad y Plygain.

Er mwyn sicrhau eu bod yn parchu’r hen garolau hyn, roedd Angharad yn teimlo ei bod yn bwysig cadw’n agos at y fersiynau gwreiddiol, gan ddefnyddio dawn Huw i greu awyrgylch newydd o’u cwmpas.

 “Dw i’n aros yn driw i’r geiriau a’r alawon traddodiadol. Sa i’n mynd i ffwrdd o hwnna rili achos mae’r alawon mor gryf, yn unigryw iawn ac yn Gymreig.

“Mae’r carolau yma mor hen ac mae rhywbeth hudolus iawn amdanyn nhw.

“Ond mae Huw yn gwneud lot o’r gwaith byrfyfyr ac yn chwarae o gwmpas fi.

“Rydyn ni’n hollol ymwybodol o draddodiad y Plygain a gwasanaethau Plygain ac nid trio ailgreu rhywbeth traddodiadol ni’n gwneud.

“Rydyn ni’n gwneud rhywbeth newydd ac yn cymryd ysbrydoliaeth.

“Licien i feddwl ein bod ni’n parchu’r traddodiad yn llwyr ac wedi gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, ond eto’n cyflwyno pobol i’r traddodiad.

“Os yden ni wedi gallu agor y drws i ran o’r traddodiad i bobol trwy’r gerddoriaeth yma, mae hwnna’n beth da.”

Ond mae ambell gân sy’n sefyll allan gan nad ydyn nhw’n ganeuon Plygain, sef ‘Awn i Fethlehem’ a ‘Calennig’. Daeth Angharad ar eu traws yng nghasgliad y gwerin-garwyr Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a disgynnodd mewn cariad gyda nhw.

“Roedd yna gardiau bach yn eu casgliad nhw a gydag ‘Awn i Fethlehem’, wnes i weld yr alaw fach yma wedi cael ei sgrifennu mas gyda llaw a thrio e mas, a’r alaw wnaeth fy nhynnu i mewn.

“Ro’n i’n dwli ar yr alaw.

“Felly efallai er nad yw’r geiriau mor berthnasol i fi gan nad ydw i’n Gristion, mae rhywbeth ysbrydol iawn am y gerddoriaeth.

“Mae Huw yn mynd â fe i lefel arall.”

Gwaith gwreiddiol

Mae un gân wreiddiol ar yr albwm hefyd, sef ‘Dolig Abertawe’ sy’n dyddio yn ôl i ddyddiau Angharad ym Mhrifysgol Oxford Brookes yn Rhydychen.

“Wnes i sgrifennu honna blynyddoedd yn ôl pan wnes i ddod adref o’r brifysgol i Abertawe ar gyfer y Nadolig, ar ôl cyfnod doedd ddim yn greadigol iawn.

“Ond roedd gallu dod adref a bod wrth y môr yn Abertawe eto, a chael mam yn edrych ar fy ôl i ac yn fy mwydo, yn rhoi’r lle a’r amser i greu eto.

“Dw i wedi chwarae e gyda sawl person, ac wedi’i recordio gyda fy mam a Calan.”

Y Nadolig rhyfeddaf ohonyn nhw i gyd yw testun cân arall ar yr albwm, sef ‘Daeth Nadolig 2020’. Yr alaw plygain adnabyddus ‘Deio Bach’ ydy hi a geiriau’r garol ‘Daeth Nadolig’ sy’n cychwyn y gân.

“Mae’r pennill gyntaf yn hen iawn ac wedi’i sgrifennu gan John Jones o Langollen a oedd o gwmpas rhwng 1801 a 1856.

“Ac wedyn gyda phennill tri a phedwar, wnaethon ni gomisiynu’r prifardd, Ceri Wyn Jones,  i ymateb i’r pennill gyntaf.

“Fi’n dwli ar y carol ‘Daeth Nadolig’ ac mae’r geiriau’n llai crefyddol na rhai eraill ac yn sôn am fyd natur.

“Ac ar y pryd, ro’n i’n meddwl bod un llinell yn benodol mor berthnasol i’r Nadolig yna dan glo er ei fod wedi’i sgrifennu yn yr 1800au, sef:

 

‘Ac mae miwsig pob aderyn wedi darfod yn y glyn’

 

“[Adeg Covid] roedd pob cyngerdd wedi’i chanslo a doedd y cantorion ffili dod ynghyd i greu cerddoriaeth.

“Felly gofynnais wrth Ceri i ymateb i’r pennill gyntaf gan sôn am y cyfnod clo.

“Mae ei eiriau e mor arbennig a hyfryd, ac yn sicr yn ein mynd â ni yn ôl i’r cyfnod yna ble’r oedd ansicrwydd mawr a dim cerddoriaeth.”

Partneriaeth berffaith

Sbardun Calennig oedd cyfnod byr o gydweithio rhwng Angharad a Huw am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod clo. Bu’r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal perfformiadau ar-lein pob dydd yn ystod mis Rhagfyr 2020 yn arwain i fyny at y Nadolig. Gwahoddwyd y ddau fel deuawd gan Elen Elis o’r Eisteddfod Genedlaethol i ddarparu rhaglen fer o gerddoriaeth yn rhan o ‘Adfent AmGen’ y brifwyl. O hynny daeth y syniad ar gyfer albwm gyfan.

“Ro’n i’n gyfarwydd â gwaith Huw a ro’n i wrth fy modd efo’r ffordd mae’n plethu cerddoriaeth jazz a gwerin mewn ffordd mor tasteful.

 “Ro’n i’n meddwl: ‘Byddwn i’n dwli gwneud rhywbeth gyda hen garolau Cymreig gyda Huw’.

“Wnaethon ni baratoi tair cân ar gyfer yr Adfent Amgen a wnaeth e jest gweithio’n syth.

“Roedd e jest mor instinctive, y ffordd roedd e’n chwarae’r carolau a gyda fi.”

 

Alter-ego pop

Bydd rhai’n ymwybodol fod gan Angharad alter-ego sy’n creu cerddoriaeth pop. ANGHARAD ydy hon ac mae hi’n bodoli ers rhyw flwyddyn bellach.

Roedd hi yn arfer sgrifennu blog am fod yn fam a cherddor, ond trodd hyn yn brosiect cerddorol ble mae yn rhannu ei phrofiad o “identity crisis” wedi iddi ddod yn fam. Doedd Angharad erioed wedi sgrifennu cân na chwaith wedi canu cyn cael plant, ond llifodd y caneuon allan ohoni o fewn chwe mis, meddai. Rhoddodd hyn yr hyder iddi fynd yn ei blaen i ganu ar Calennig.

“Mae e fel split personality.

 “Pan ti’n troi’n fam, ti’n mynd trwy identity crisis achos am 35 o flynyddoedd dw i wedi bod yn ‘Angharad Jenkins y cerddor’.

“Ac wedyn yn sydyn, dw i’n cael babi a does neb yn dweud helo i ti rhagor… Maen nhw’n edrych ar y babi yn y pram ac yn meddwl: ‘Ti yw mam Tanwen a ti yw mam Idris’.

“Dw i’n dod i nabod cymaint o bobol wahanol trwy fy mhlant ond does neb yn gwybod unrhyw beth amdana i – fi jest yn fam i Tanwen ac Idris.

“Felly dw i’n cael serious identity crisis a dw i mor falch fy mod i wedi gwneud Calennig achos dw i dal yn caru gwneud stwff gwerin, ond mae fy mhen i wedi mynd i ganu caneuon pop.

“Mae e wedi digwydd yn hollol naturiol ond allan o nunlle.

“Ond mae’n ffordd i ymdopi ac o gofnodi fy mhrofiad o fod yn fam.

“A thrwy ryddhau’r gerddoriaeth yma, dw i’n gobeithio y bydd mamau eraill yn gallu uniaethu gyda beth sydd gen i i ddweud.”

Mae Calennig ar gael i’w ffrydio a’i phrynu ar CD nawr, a bydd albwm gyntaf ANGHARAD allan yn gynnar yn y flwyddyn newydd