Peth afiach yw bwlio.

Mae’r rheiny sy’n mynd ati’n fwriadol i fwlio pobl eraill yn bobl hyll eu cymeriad. Nid ydynt yn haeddu ein parch.

Maent hefyd yn gyfyngedig eu gallu. Nid oes ganddynt y sgiliau sydd eu hangen i drafod syniadau gydag eraill – neu’r hunan hyder i dderbyn eu bod yn anghywir weithiau – ac mai pobl eraill sy’n iawn.