Yma yn Nyffryn Ogwen, mae’r mynyddoedd wedi gwynnu, ac mae’r llinell eira’n dod yn is bob dydd. Mae’n un o’r arwyddion cliriaf fod gaeaf yn yr awyr, ac er fy mod i’n medru bod ychydig yn sinigaidd am yr holl beth “Nadolig” – boed hynny’n ganeuon di-ri yn y cefndir wrth fynd i siopa, i doreth o hysbysebion chwydlyd ar y teledu – sut allwch chi fod yn sinigaidd am eira?