Cadw-mi-gei.

Siâp mochyn oedd o, dim ond fod ei drwyn yn rhy fyr, a bod dim cynffon cyrliog ar ei dîn. Ond doedd dim ots gan Eifion. Ei gadw-mi-gei o oedd o, ac wrth i’r dyn clên o’r banc ei roi yn ei ddwylo bach eiddgar saith oed, dywedodd, ‘Dyna chi, Mr Jones – ’da chi’n ddyn pwysig rŵan. Mae gynnoch chi gyfrif banc!’