Darlledwyd Paid â Dweud Hoyw ar S4C ar Ragfyr y cyntaf, i gyd-fynd â Diwrnod AIDS y Byd. Rhaglen ddogfen oedd hi gyda’r actor a’r cynhyrchydd o Rosllannerchrugog, Stifyn Parri, yn trin a thrafod cyfnod trist yn hanes diweddar Prydain, hanes Cymal 28.