Da oedd gweld yr Uchel Lys yn dyfarnu bod erthyl bolisi llywodraeth Llundain o ddanfon pobl sy’n ceisio lloches i Rwanda yn gam i’r cyfeiriad anghywir. Nodwyd y risg wirioneddol o ffoaduriaid fyddai’n mynd ar awyren i’r wlad fechan yng nghanol Affrica, yn cael eu ceisiadau yno wedi’u hasesu’n anghywir cyn eu danfon yn ôl i’w gwlad wreiddiol i wynebu gormes eto.