Ydy’r rheilffyrdd yng Nghymru yn ddigon da?

Dwi’n meddwl bydd eich profiad o’r rheilffyrdd yn dibynnu ar lle’r ydych yn byw ac at ba ddiben yr ydych yn defnyddio’r trên.

Cefais fy magu yn Ffynnon Taf ac yno mae trên yn dyfod yn rheolaidd i’ch cludo i Gaerdydd neu i Bontypridd. Pan oeddwn yn fy arddegau ac heb gar wnes i ddefnydd mawr o’r orsaf drên a phe baech wedi fy holi pryd ’ny, roedd gen i farn ffafriol iawn o drenau Cymru.