Am dalp go helaeth o’r pythefnos diwethaf roeddwn i yn Rio de Janeiro ym Mrasil, yn rhannu’r sioe For The Love of Spam yn NEAP, sef yr ŵyl sydd wedi ei chreu a’i chynnal gan yr ITI (y Sefydliad Theatr Rhyngwladol). Ein sioe ni oedd yr unig un yn Saesneg yn yr holl ŵyl, gyda phob un arall yn yr iaith Portiwgeaidd. Wedi i ni gyrraedd yr ŵyl a gwylio cwpwl o sioeau eraill, fe wnaethom ni sylweddoli yn gyflym iawn fod pob un darn hefyd yn wedi ei ariannu’n DDA, gyda setiau, gwisg a dar