Mae’r Urdd eisiau codi £45,000 er mwyn gallu cynnig gwyliau am ddim i 250 o blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol. Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog, sy’n egluro mwy…

 

Gyda’r Nadolig yn nesáu, ac yng nghanol yr holl wario a’r cyffro mawr, dw i’n siŵr fod meddyliau llawer ohonom ni’n troi at y rheiny sy’n llai ffodus na ni.