Falla mai dim ond dŵr ydi hwn i chi. Dim ond cafn hir o arwyneb sy’n adlewyrchu’r tywydd; yn sglein o arian pan ’da chi’n gyrru heibio. Falla mai lle i ddod am bicnic ydi o ar y ffordd ’nôl o’ch gwyliau siomedig o lawog yn y mynyddoedd, neu’n lecyn perffaith i ddal machlud lliwiau blodau mewn llun instagram hyfryd.