Rhyngddyn nhw, mae cwmni o’r enw Bute Energy o’r Alban: ail gwmni o’r enw Coriolis o’r Iwerddon [yn perthyn i lywodraeth Iwerddon!] a thrydydd cwmni o’r enw Galileo o Ewrop, yn bwriadu adeiladu dros 400 o felinau gwynt ANFERTHOL ar hyd  Cymru fach. Rhai sy’n mesur 750 troedfedd i 820 troedfedd o uchder!

Mi fydden nhw yn dinistrio Cymru gyfan, gan y bydden nhw yn weladwy o 30 milltir i ffwrdd.

A oes melinau enfawr o’r maint yma i’w cael yn yr Unol Daleithau neu Loegr?

Ddim trwy wybod i mi.