Fe sgoriodd Scott Quinnell sawl cais yn ystod ei yrfa lewyrchus a llwyddiannus ar y cae rygbi. Her wahanol sydd yn ei wynebu yn Cais Quinnell serch hynny, wrth i’r cyn-chwaraewr rhyngwladol fynd ar hyd a lled Cymru yn ymgymryd â phob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol.