Mewn llai na blwyddyn bydd trigolion America yn pleidleisio dros arlywydd newydd. Mae’n debygol iawn nag ail-adrodd 2020 y byddwn ni. Dydi hi ddim sbel ers i mi fynegi i chi fy mod i’n gallu gweld Trump yn ennill, ond mi deimlais yn iasoer o weld nid un, ond tri phôl yr wythnos diwethaf yn awgrymu bod ganddo bellach fantais sylweddol.