Tydan ni ddim yn gwybod ei hanes o. Creadur bach. Mae ganddo fo ei stori, wrth gwrs, yn dechrau pan oedd rhywun yn cerdded ei phlant i’r ysgol ar ryw fore Iau glawog, ac mi glywodd sŵn crïo’n dod o’r maes parcio y tu ôl i’r garejys. Doedd gan Mot unlle i gysgodi, ac roedd ei dennyn byr yn ei glymu’n dynn at y ffens. Roedd o’n denau, ei gôt yn gaglau i gyd. Roedd ofn cŵn ar y fam ifanc, ond wnaeth hi ddim meddwl ddwywaith cyn mynd i gysuro’r ci, ei fwytho’n fwyn, siarad gydag o mewn llais meddal,