Roeddwn i’n falch iawn i weld colofn Bwrlwm Y Bae yn ffocysu ar gwtogi’r defnydd o blastig untro [‘Cwtogi drastig ar y defnydd o blastig’, Golwg 02/11/23]. Rydym ni oll am weld cenedlaethau’r dyfodol yn etifeddu daear sy’n lanach, ac felly mae’n hanfodol ein bod ni’n “troi’r llanw”, fel petai, ar ein defnydd o blastigau sy’n tagu’n daear ac sydd hyd yn oed yn mynd i mewn i’n ffrydiau gwaed.