Gyda’r Gaeaf ar ei ffordd, roeddwn i’n awyddus i drin fy ngwraig annwyl i daith i’r haul yr wythnos ddiwethaf. Roedd ffleits i Malaga yn ddigon rhesymol, ac roedden ni eisiau ymweld â Sevilla, sy ddim ond dwy awr i ffwrdd ar y trên.

Fel cyd-ddigwyddiad anhygoel, roedd Real Betis yn chwarae adref yn erbyn Osasuna ar y dydd Sul, ac wrth gwrs doeddwn i ddim am wastraffu’r cyfle i ymweld â chae newydd.