Mae fy agwedd i at Sul y Cofio wedi cymhlethu a dwysáu dros y blynyddoedd diwetha’ wrth i ffenest Overton hanes symud.

O fod yn ddigwyddiad pell-i-ffwrdd i blentyn yn y 1960au, mae’r Ail Ryfel Byd – a’r Cyntaf – yn llawer nes at y dyn canol oed hŷn.

Rhan o hynny ydi sylweddoli, hyd yn oed i filwyr anfoddog fel fy nhad, faint dychrynllyd y digwyddiadau yma i’r rhai oedd yn eu canol nhw. Roedden nhw’n cofio mwy hyd yn oed na’r ymladd ei hun.