Cwestiwn cwis i chi – beth mae 2.7% o siaradwyr Cymraeg yn ei wneud bob dydd? Cwis yw’r ateb, Cwis Bob Dydd.

Felly gydag ymddiheuriadau nad ydw i’n mynd i bwyso a mesur rhaglen deledu na radio’r wythnos hon, dw i’n mynd i sôn ychydig am y ffenomen ffôn clyfar diweddaraf! A phryn bynnag, S4C sydd yn gyfrifol am yr app felly dw i’n siŵr y gwnewch chi faddau i mi.