Rhian Cadwaladr sy’n rhoi cyngor i ddyn sydd wedi gweld newid yn y berthynas gyda’i wraig gyda’r ddau yng ngyddfau’i gilydd drwy’r amser…
Annwyl Rhian,
Yn ddiweddar mae fy ngwraig a fi wedi bod yn ffraeo drwy’r amser. Rydan ni wastad wedi cael perthynas reit danllyd ond roedden ni’n arfer gallu chwerthin am y peth wedyn ac fel arfer yn diweddu fyny yn y gwely. Ond mae’r ffraeo wedi troi’n fwy cas dros y misoedd dwetha’. Mae rhai pethau wedi cael eu dweud alla’i ddim maddau. O ganlyniad, mae ochr rywiol y berthynas – oedd wastad mor gry’ – wedi chwalu. Dw i’n cysgu mewn stafell ar wahân erbyn hyn. Dydan ni ddim yn ffraeo am un peth penodol – jest lot o bethau bach sy’n mynd ar nerfau’n gilydd. Mae fy ngwraig wedi bod dan straen yn y gwaith ac yn mynd drwy’r menopos. Ond, fel arall, dw i ddim yn gwybod beth sydd i gyfrif am yr holl ffraeo. Rydan ni wedi bod yn briod ers naw mlynedd a does gynnon ni ddim plant. Dw i ddim yn gwybod sut i wneud pethau’n well na lle i fynd o fan hyn… help plis!
Os ydi rhywun yn mentro i mewn i briodas yn disgwyl blynyddoedd maith o hapusrwydd pur a chyd-dynnu hawdd, mae arna’i ofn nad ydyn nhw yn bod yn realistig. Dw i’n amau mai canran fach sydd yn ddigon lwcus i gael priodas berffaith ac, i’r rhelyw, y realiti yw bod llwybr eu priodas, fel bywyd ei hun, i fyny ac i lawr. Os ydach chi wedi bod ar i fyny am y naw mlynedd ddiwethaf rydach chi wedi bod yn lwcus, ond rŵan rydach chi’n talu’r pris ac yn mynd drwy gyfnod sydd ddim cystal. Wrth dyngu eich llw priodas mi addawoch fod yn driw i’ch gilydd “er gwell, er gwaeth”, felly gwisgwch eich gwregys diogelwch i’ch cadw chi’n saff drwy’r cyfnod gwael yma, achos cyfnod fydd o, gobeithio.
Mae amryw o resymau pam fod perthynas yn medru chwerwi a dw i’n meddwl mod i’n medru dyfalu beth yw’r broblem yn eich achos chi. Rydach chi’n dweud fod eich gwraig dan straen yn y gwaith – dyna i chi un rheswm pam y gallai hi fod yn ddiamynedd a bod ei diddordeb mewn rhyw wedi pallu – dau adwaith naturiol i fod dan straen. Rydach chi hefyd yn dweud ei bod yn mynd drwy’r menopos, gall y ddau beth yma fod yn mynd law yn llaw.
Mae’n anodd esbonio’r profiad o fynd drwy’r menopos. Fel rhywun sydd wedi mynd drwyddo fo fy hun fedra’i ddim honni fy mod i’n gwybod yn union sut brofiad ydi o, achos mae pob dynes yn ei brofi yn wahanol. Mae rhai yn medru hwylio drwyddo yn weddol ddi-lol ac i eraill mae’n gallu bod yn llanast llwyr – a’u bywyd yn cael ei droi dîn dros ben. Yn ogystal â gorfod delio â phob math o symptomau corfforol fel pyliau poeth, magu pwysau a blinder llethol, mae rhai’n gorfod delio efo meddwl dryslyd, diffyg cwsg, iselder a’r teimlad eu bod yn colli eu hunaniaeth – does ryfedd fod merched yn colli diddordeb mewn rhyw! Ond tydi hyn ddim yn golygu fod bywyd rhywiol merch drosodd pan fo hi’n cyrraedd y menopos ac mae help i’w gael ar sawl lefel.
Ei chefnogi drwy’r menopos
Dw i ddim yn gwybod sut brofiad o’r menopos mae eich gwraig yn ei gael, ond tybed ydach chi? Ydach chi wedi siarad efo hi am y peth? Wedi eistedd lawr a thrïo deall o ddifri? Wedi mynegi cydymdeimlad? Gall fod mai dyma’r unig beth sydd yn rhaid i chi wneud – dangos iddi eich bod chi yna iddi ar y cyfnod anodd yma yn ei bywyd, eich bod yn ei chefnogi a’i charu.
Y newyddion da ydi yn y blynyddoedd diwethaf mae pobol wedi dod yn fwy parod i drafod y menopos yn agored, ac yn raddol mae o’n peidio â bod yn bwnc tabŵ. Mae yna fwy o gefnogaeth i’w gael yn y gweithle ac mae pob math o grwpiau cefnogaeth yn codi – o griw o ferched yn dod at ei gilydd mewn caffis i drafod maeth a’r menopos, i grwpiau o ferched yn mynd i nofio mewn llynnoedd a moroedd fel ffordd o ddelio efo’r symptomau. Ewch ar y We ac fe ddowch o hyd i lwyth o wefannau yn cynnig arweiniad a chymorth a chadwch lygaid allan ar y gwefannau cymdeithasol am grwpiau cefnogaeth sydd i’w cael yn lleol i chi. Cofiwch hefyd fod eich meddyg lleol yna i helpu delio efo symptomau fel diffyg diddordeb mewn rhyw.
Siaradwch, cefnogwch a maddeuwch a dw i’n mawr obeithio y dowch chi drwy’r cyfnod anodd yma yn hapusach – a’ch perthynas yn gryfach. A phetai’r esgid ar y droed arall rhyw dro, gobeithio fydd eich gwraig yn dangos yr un ddealltwriaeth i chi.